Wikimedia Foundation Feedback Privacy Statement

From Wikimedia Foundation Governance Wiki
This page is a translated version of the page Legal:Feedback privacy statement and the translation is 77% complete.
Outdated translations are marked like this.

Eich adborth

Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth! Adborth wrth ddefnyddwyr fel chi yw un o'r ffyrdd gorau i ni ddarganfod beth sy'n llwyddiannus, beth sy'n aflwyddiannus, a sut y gallwn ni wella ein gwasanaeth.

Pan fyddwch yn cynnig adborth, rydym yn ei ddefnyddio mewn ffordd agored. Rydym yn esbonio beth rydym yn ystyried yn wybodaeth gyhoeddus a pha drwyddedau sy'n berthnasol Adborth data|fan hyn. Yn gyffredinol, rydych yn cytuno fod eich cyfraniad yn gyhoeddus ac o dan drwydded CC0 neu CC BY SA 3.0. Oni bai fod y gwrthwyneb yn cael ei ddatgan yn benodol, bydd eich gwybodaeth adnabyddiaeth bersonol yn cael ei drin fel y wybodaeth adnabyddiaeth bersonol arall yn ein polisi preifatrwydd, a allai, er enghraifft, ddatgelu eich enw defnyddiwr yn gyhoeddus.

Os rowch chi gyfeiriad ebost, mae'n bosib y byddwn yn ei ddefnyddio i gysylltu a chi a danfon diweddariadau i chi am eich adborth.

Gall Sefydliad Wicifryngau weld yr adborth a gwybodaeth arall a gesglir, gan gynnwys eich Enw Defnyddiwr (os y darparoch un), eich cyfeiriad IP, ac unrhyw ddata arall a ddarparwyd neu a drosglwyddwyd i ni.

Fel rhan o'n hymdrechion i gefnogi neu gynorthwyo i wella systemau a gweithgareddau Wicifryngau, mae'n bosib y byddwn yn galw am adolygiad a thrafodaeth gyhoeddus o'n materion. Oherwydd hyn, mae'n bosib y byddwn yn cyhoeddi peth neu eich holl adborth a gwybodaeth gyhoeddus arall mewn cyfryngau cyhoeddus, gan gynnwys gwefannau a blogiau.

Mae'n bosib y bydd eich adborth a'ch gwybodaeth gyhoeddus yn cael ei gynnwys mewn data sydd ar gael yn gyhoeddus er mwyn ceisio dadansoddi, rhannu, neu drafod ein gweithgareddau yn Sefydliad Wicifryngau.

Mae'n bosib y byddwn yn datgelu gwybodaeth yn unol a gofynion cyfreithiol, pan fo angen amddiffyn ein hawliau, preifatrwydd, diogelwch, neu ddefnyddwyr, a pha fo angen gweithredu ein Telerau Defnydd.

Mae'n bosib y byddwn yn rhannu'ch adborth neu wybodaeth arall gyda darparwyr gwasanaethau allanol, mewn ymdrech i gefnogi neu gynorthwyo gweithredoedd a gweithgarwch Wicifryngau.

Wrth roi adborth, rydych yn cytuno i'r wybodaeth a gesglir gael ei anfon i Unol Daleithiau America a mannau eraill yn ôl y gofyn i gyflawni'r dibenion a'r amcanion a ddisgrifiwyd uchod. Rydych yn deall na allwch ddisgwyl gael eich talu am unrhyw syniadau y byddwch yn eu cyflwyno iddom ni.

Diolch am ymuno yn yr ymdrech i loywi prosiectau Sefydliad Wicifryngau.

Wikimedia Foundation


Sylwer: Mae'r testun uchod yn egluro'r modd y mae Sefydliad Wikimedia yn trin adborth o ddefnyddwyr offer megis "ArticleFeedback, WikiLove, MoodBar," ac offer tebyg eraill. Mae'r eglurhad hwn i'w weld drwy ddolen gyswllt ar yr offer, fel rhan o'r broses o roi adborth.